Ceri Jones i barhau fel prif hyfforddwr y Dreigiau

Ceri Jones Image copyright Huw Evans Agency

Mae'r Dreigiau wedi cyhoeddi y bydd Ceri Jones yn parhau fel prif hyfforddwr y rhanbarth tan ddiwedd y tymor.

Cafodd y cyn-brop rhyngwladol ei enwi fel prif hyfforddwr dros dro ym mis Rhagfyr, ar ôl i'r Dreigiau benderfynu diswyddo Bernard Jackman.

Roedd y rhanbarth wedi gobeithio penodi olynydd parhaol i Jackman eleni, ond fe gadarnhaodd cadeirydd y clwb, David Buttress, bod cyfnod Jones â'r clwb yn parhau.

"Mae Ceri wedi gwneud gwaith ardderchog yn arwain y garfan gyda chefnogaeth ein tîm hyfforddi," meddai.

Ers i Jones gael ei benodi mae'r Dreigiau wedi llwyddo i ennill dwy gêm, gan gynnwys buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn y Gweilch.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol