Cyhuddo dyn wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir Caerffili

Rhan o Ffordd Newydd, Ystrad Mynach Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ran o Ffordd Newydd, Ystrad Mynach

Mae disgwyl i ddyn 30 oed o ardal Caerffili fynd o flaen llys ddydd Llun ar ôl i Heddlu Gwent ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Bu farw Jason Clarke, 43 oed o ardal Tre-lyn y dref, yn y fan a'r lle wedi gwrthdrawiad yn Ffordd Newydd, Ystrad Mynach ddydd Gwener.

Mae'r diffynnydd hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.

Mae disgwyl iddo fynd o flaen ynadon yng Nghasnewydd ddydd Llun.

Roedd yna ddau gerbyd - Seat Leon du a fan Volkswagen Crafter llwyd - yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd rhwng 20:15 a 20:30 ar 11 Ionawr.

Mae'r llu'n apelio i'r cyhoedd am wybodaeth a lluniau dash-cam allai fod o gymorth i'r ymchwiliad.

Pynciau Cysylltiedig