Glasgow 33-24 Gleision

Scott Cummings Image copyright SNS
Image caption Scott Cummings sgoriodd yr ail gais i Glasgow

Colli bu hanes Gleision Caerdydd oddi cartref yn erbyn Glasgow yn Scotsoun, er gwaethaf gêm agos tua'r diwedd.

Roedd Glasgow yn geffylau blaen o'r dechrau'n deg yn yr hanner cyntaf, gyda chais Owen Lane i'r Gleision toc cyn hanner amser prin yn ddigon i gau'r bwlch.

Ond cafodd yr ymwelwyr ail wynt yn yr ail hanner, ac er i geisiadau pellach gan Lane a Josh Navidi godi sgôr y Gleision, nid oedd yn ddigon i drechu'r Warriors.

Mae'r fuddugoliaeth i Glasgow yn golygu eu bod gam yn nes at rownd y chwarteri ar gyfer Cwpan Pencampwyr Ewrop, er eu bod yn parhau pedwar pwynt tu ôl i'r Saracens.

Pynciau Cysylltiedig