Gwrthdrawiad angheuol ym Maerdy, Rhondda

Stryd Oxford Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu ei galw wedi i gerbyd fwrw'n erbyn fan oedd wedi parcio toc wedi 8:30

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Maerdy, Rhondda, fore Sul.

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Oxford toc wedi 08:30 ar ôl i fan Ford Transit daro fan Iveco Daily oedd wedi parcio ar ochr y stryd.

Bu farw gyrrwr 73 oed y Ford Transit yn syth wedi'r gwrthdrawiad.

Mae'r heddlu'n apelio i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y fan yn teithio ar hyd y stryd i gysylltu gyda nhw.

Pynciau Cysylltiedig