Arestio dyn wedi gwrthdrawiad angheuol ger Caerffili
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol ar Ffordd Newydd, Hen-goed yng Nghaerffili nos Wener.
Maen nhw hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dyn am yrru'n beryglus ac achosi marwolaeth.
Fe wrthdarodd car Seat Leon du a fan Volkswagen yn erbyn ei gilydd rhwng 20:15 a 20:30 nos Wener.
Bu farw dyn 43 oed a oedd yn teithio yn y car. Roedd e'n dod o ardal Caerffili.
Arestio dyn o'r ardal
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai dyn 30 oed o ardal Caerffili sydd wedi cael ei arestio, ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Cafodd gyrrwr y car a dau deithiwr arall driniaerth ysbyty ond nid oedd eu hanafiadau yn ddifrifol.
Chafodd gyrrwr y fan ddim mo'i anafu.
Mae'r llu yn apelio i unrhyw un â fideo dash cam o'r heol tua adeg y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw.