Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 59-3 Timisoara Saracens

Will Talbot-Davies Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency

Fe wnaeth yr asgellwr rhyngwladol Hallam Amos groesi am ddau gais wrth i'r Dreigiau chwalu Timisoara Saracens o Rwmania 59-3 yng Nghwpan Her Ewrop nos Wener.

Amos groesodd am y cais cyntaf o naw, gyda'r pwynt bonws yn cael ei sicrhau eiliadau ar ôl yr egwyl.

Roedd yna ddau gais yr un hefyd i Will Talbot-Davie a Rhodri Davies, ac un yr un i Matthew Screech, Jordan Williams a Ben Fry.

Llwyddodd Jason Tovey gyda saith trosiad.

Doedd yr un o'r ddau dîm yn gallu cyrraedd rownd nesa'r gwpan, ac fe fydd y Dreigiau yn chwarae eu gêm olaf yn gystadleuaeth ar ddydd Gwener 18 Ionawr, gartref yn erbyn Clermont Auvergne.

Pynciau Cysylltiedig