AC Plaid Cymru, Steffan Lewis, wedi marw yn 34 oed
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

AC Plaid Cymru, Steffan Lewis, wedi marw yn 34 oed

11 Ionawr 2019 Diweddarwyd 21:50 GMT

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Steffan Lewis, wedi marw yn 34 oed.

Cafodd ei ethol i'r Cynulliad fel aelod dros Ddwyrain De Cymru yn 2016 - yr aelod ieuengaf ar y pryd.

Cafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn cyn Nadolig 2017, a chael gwybod ei fod wedi lledu i rannau eraill o'i gorff.

Aled ap Dafydd sy'n edrych yn ôl dros ei yrfa wleidyddol.