Deddf Aer Glân: Dim ond un ddirwy mewn 25 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Dim ond un person sydd wedi cael dirwy mewn 25 mlynedd am dorri Deddf Aer Glân Llywodraeth Cymru ar ôl llosgi tanwydd sydd wedi'i wahardd.
Dyw trigolion Abertawe, Casnewydd, Sir y Fflint a Wrecsam ddim yn cael llosgi rhai tanwydd fel pren neu lo - dim ond tanwyddau o restr benodol.
Mae wedi dod i'r amlwg yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru mai Wrecsam yw'r unig awdurdod lleol sydd wedi defnyddio'r pŵer i roi dirwy o £2,500.
Dywedodd cadeirydd Panel Arbenigol Llygredd Cymru, Huw Morgan bod angen "moderneiddio" y pwerau.
'Anwybodaeth'
Nod Deddf Aer Glân 1993 yw diogelu iechyd y cyhoedd rhag mwg, a gall cynghorau sefydlu ardaloedd rheoli mwg.
Pedwar cyngor sydd wedi creu ardaloedd o'r fath, sef Abertawe, Casnewydd, Sir y Fflint a Wrecsam.
Dyw Cyngor Casnewydd ddim wedi defnyddio'r ddeddf o gwbl, ac er bod Sir y Fflint wedi rhybuddio 39 o bobl, ni chafodd unrhyw un ei ddirwyo.
Dywedodd Mr Morgan nad yw'n synnu bod y ddeddf wedi'i gweithredu cyn lleied, a hynny am "nad yw'n hawdd ei gorfodi".
"Mae wir angen moderneiddio'r pwerau fel y gallwn ni fynd mewn i gartrefi a gweld pa danwydd mae pobl yn llosgi," meddai.
"Dyw pobl ddim yn gwybod sut i losgi pren yn gywir.
"Y broblem yw bod pobl yn llosgi pren gwyrdd, gwlyb, sy'n arwain at fwg golau, sy'n waeth i'r amgylchedd."
Ychwanegodd Mr Morgan ei fod yn credu y dylai'r ddeddf fod ar waith ar draws y wlad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r cyfyngiadau o ran gweithredu effeithiol" gyda'r ddeddf.
"Ry'n ni'n gweithio gyda'r diwydiant, cyflenwyr tanwydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu pecyn cynhwysfawr o ymyriadau o ran llosgi tanwydd yn y cartref," meddai.
Straeon perthnasol
- 18 Mehefin 2018
- 25 Ionawr 2018
- 7 Mawrth 2017