Teyrnged i ddyn 81 oed fu farw wedi gwrthdrawiad M4

M4 cyffordd Hendy Image copyright Google

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw wedi gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar yr M4 ddydd Llun.

Roedd Roy Amos yn 81 oed ac yn dod o ardal Llandeilo.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 16:30 ar 7 Ionawr rhwng cyffyrdd Hendy a Phont Abraham i gyfeiriad y gorllewin.

Roedd pedwar cerbyd yn rhan o'r digwyddiad a chafodd tri o bobl eu cludo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd teulu Mr Amos: "Roedd Roy yn ŵr, tad, taid a hen daid cariadus, a bydd colled fawr ar ei ôl."

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy alw 101.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol