Adran Dau: Crewe 3-2 Casnewydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Llwyddodd Antoine Semenyo i unioni'r sgôr wedi 65 munud

Roedd Casnewydd yn mynd i Crewe gyda buddugoliaeth fawr yn erbyn Caerlŷr wythnos ddiwethaf yn fyw yn y cof ond Crewe aeth ar y blaen ar ôl ychydig dros hanner awr wedi i Bowery sgorio.

Daeth Casnewydd yn ôl yn gadarn iawn gyda gôl gan Semenyo ar ôl 65 munud a daeth gôl arall gan Amond ar ôl 76 munud. Roedd hi'n ymddangos fod Casnewydd wedi cipio buddugoliaeth.

Ond wrth i ddiwedd y gêm ddod yn nes roedd yna gamgymeriadau - troseddodd Dan Butler yn y blwch cosbi drwy dynnu George Ray i'r llawr ac felly gyda dau funud yn weddill roedd Chris Porter wedi unioni'r sgôr.

Rhoddodd hyn egni newydd i Crewe a dwy funud heibio'r 90 munud rhoddodd Callum Ainley gic droed dde i'r bêl a rhoi ei dîm ar y blaen.

Crewe felly yn cipio tri phwynt ac mae Casnewydd bellach yn drydydd ar ddeg yn y gynghrair gyda 36 pwynt.