Cwpan Pencampwyr Ewrop: Scarlets 33-10 Caerlŷr

Johnny Mcholl yn sgorio'r pedwerydd cais i'r m cartref Image copyright @RileySports
Image caption Johnny McNicholl yn sgorio'r pedwerydd cais i'r tîm cartref

Doedd taith y Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop hyd yma ddim wedi bod yn llwyddiannus wedi iddynt golli eu pedair gêm gyntaf ond roedd yna ddechrau da i'r gêm adref yn erbyn Caerlŷr nos Sadwrn.

Cais yn gyntaf i Rob Evans wedi 25 munud ac yna wedi 36 munud cais i Ken Owens ac wedi cicio llwyddiannus gan Daniel Jones roedd y sgôr yn 12 i 0 i'r tîm cartref ar hanner amser.

Fe ailadroddodd Rob Evans ei gamp yn yr ail hanner drwy sgorio cais arall ac wedi cic lwyddiannus arall gan Daniel Jones roedd yna gais arall i'r Scarlets - Johnny McNicholl y tro hwn.

Sgoriwyd y pumed cais gan Steff Evans.

Wedi bron i awr o chwarae roedd y Scarlets ar y blaen o 33 i 0 ond doedd yr ymwelwyr ddim wedi torri eu calon yn llwyr gan i Will Evans sgorio cais 66 munud i fewn i'r gêm.

Roedd yna gais arall i'r Teigrod ym munudau ola'r gêm.

Y sgôr terfynol oedd Y Scarlets 33, Caerlŷr 10.

Seren y gêm oedd y capten Ken Owens.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol