Apêl wedi ymosodiad ar fenyw 72 oed ym Mhontarddulais

heddlu
Image caption Fe ddigwyddod yr ymosodiad tua 08:15 yn ardal Ffordd Garnswllt ym Mhontarddulais fore Mercher

Mae dynes 72 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl i rywun ymosod arni yn ei chartref ym Mhontarddulais fore Fercher.

Cafodd y ddynes ei chludo i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd ac mae hi mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Dywedodd y ditectif sarjant Carl Price o Heddlu'r De eu bod am wybod os oedd rhywun yn ymddwyn yn amheus yn ardal Ffordd Garnswllt ym Mhontarddulais fore Mercher.

Fe ddigwyddod yr ymosodiad tua 08:15.

"Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol sydd wedi gadael y dioddefwr mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ac rydym yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni," meddai.

Ychwanegodd y byddai yna fwy o blismyn ar ddyletswydd yn yr ardal am y tro.