Stoke City yn penodi'r Cymro Nathan Jones fel rheolwr

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Rex Features

Mae Clwb Pêl-droed Stoke City wedi penodi'r Cymro Nathan Jones fel eu rheolwr newydd.

Fe wnaeth y Potters, sy'n y 14eg safle yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, ddiswyddo Gary Rowett ddydd Mawrth.

Ar ôl ymuno â Luton ym mis Ionawr 2016, fe lwyddodd Jones, 45, i arwain yr Hatters i ddyrchafiad o Adran 2 y llynedd.

Bydd y Cymro yn gadael y clwb a hwythau yn ail yn Adran 1 ar ôl i Stoke ddod i gytundeb ar swm yr iawndal ar ei gyfer.

Dywedodd Cadeirydd Stoke, Peter Coates: "Mae Nathan yn unigolyn llawn angerdd sy'n benderfynol o lwyddo ac rydyn ni wrth ein boddau ei fod wedi cytuno i ymuno â Stoke City."