Beiciwr cwad wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
ffordd ger cilycwmFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd gefn rhwng Cilycwm a Rhandirmwyn

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod beiciwr cwad wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin nos Sadwrn.

Dim ond un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd ger pentref Cilycwm am tua 22:35.

Cafodd dyn 38 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ag anafiadau difrifol, a bu farw ddydd Sul.

Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw.