Clwb Pêl-droed Yr Amwythig yn ail-arwyddo Dave Edwards

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Fe chwaraeodd Edwards 43 o weithiau i Gymru cyn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol y llynedd

Mae Clwb Pêl-droed Yr Amwythig wedi ailarwyddo cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Dave Edwards, ar ôl iddo gael ei ryddhau gan Reading.

Daeth cyfnod cyntaf Edwards gyda'r clwb i ben yn 2007 pan arwyddodd I Luton Town, cyn iddo fynd yn ei flaen i chwarae i Wolverhampton Wanderers a Reading.

Fe chwaraeodd Edwards, 32 oed, 41 o weithiau i'r Royals y llynedd ond nid yw wedi chwarae o gwbl y tymor hwn.

Mae Edwards wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner gyda'r clwb, a bydd yn ymuno â Sam Rickets, gafodd ei enwi fel rheolwr ym mis Rhagfyr.

Yn ei gyfnod cyntaf gyda'r Amwythig fe chwaraeodd Edwards 132 o weithiau gan sgorio 13 o goliau.