Wayne Hennessey yn gwadu gwneud salíwt Natsïaidd
- Cyhoeddwyd
Mae gôl-geidwad Cymru, Wayne Hennessey wedi gwadu gwneud salíwt Natsïaidd yn ystod pryd o fwyd gyda gweddill tîm Crystal Palace.
Mae lluniau wedi ymddangos ar gyfrif Instagram Max Meyer - chwaraewr o'r Almaen - o Hennessey gyda'i fraich dde yn yr awyr.
Cafodd y llun ei gymryd yn dilyn buddugoliaeth Crystal Palace yn erbyn Grimsby yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.
Dywedodd y gŵr o Ynys Môn ei fod wedi "codi ei law a gweiddi ar y person oedd yn cymryd y llun i frysio" a "rhoi fy llaw dros fy ngheg er mwyn gwneud i'r sŵn gario".
'Cwbl ar ddamwain'
Mewn neges ar Twitter, ychwanegodd y golwr 31 oed bod y llun yn "gwneud iddi edrych fel fy mod yn gwneud math o salíwt sy'n gwbl anaddas".
"Fyddwn i fyth yn gwneud hynny ac mae unrhyw debygrwydd i ystum o'r fath yn gwbl ar ddamwain," meddai.
Fe wnaeth Meyer roi'r llun - sydd bellach wedi diflannu - ar ei Instagram yn dilyn buddugoliaeth Crystal Palace o 1-0 dros Grimsby ddydd Sadwrn.
Roedd Hennessey, sydd wedi ennill 81 o gapiau dros Gymru, chwarae yn y fuddugoliaeth honno.