Cyfeirio 17% yn fwy at dimau argyfwng iechyd meddwl

Silhouette of brain and head outline Image copyright Getty Images

Mae nifer y bobl sy'n cael eu cyfeirio at dimau argyfwng iechyd meddwl yng Nghymru wedi cynyddu 17% mewn tair blynedd, yn ôl ffigyrau newydd.

Fe gododd nifer yr achosion a gafodd eu cyfeirio at dimau Triniaeth Datrys Argyfwng yn y Cartref o 16,508 yn 2014/15 i 19,269 yn 2017/18.

Mae'r timau yn cefnogi pobl a fyddai, fel arall, angen mynd i'r ysbyty wedi ymgais i ladd eu hanafu eu hunain.

Yn ôl elusen Mind Cymru mae angen rhagor o gymorth ar bobl cyn iddyn nhw gael argyfwng iechyd meddwl, ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod "yn parhau i fuddsoddi" mewn gwasanaethau argyfwng a gwasanaethau y tu hwnt i oriau.

Mae'r timau'n cynnwys gweithwyr iechyd meddwl, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cefnogol.

'Bywyd yn annioddefol'

Mae gan Georgia Lawson, 27, o'r Trallwng, anhwylder personoliaeth ffiniol (borderline personality disorder), anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD), gorbryder ac iselder.

Bu'n rhaid iddi alw ar dimau argyfwng a gwasanaethau brys i'w helpu nifer o weithiau pan oedd ar ei gwanaf.

"Ar ei waethaf, roedd [fy iechyd meddwl] yn gwneud fy mywyd yn annioddefol. Fe wnes i hunan-niweidio am tua 11 mlynedd. Fe aeth pethau'n wael iawn ac ro'n i'n teimlo fel lladd fy hun.

"Fe wnes i geisio cyflawni hunanladdiad sawl gwaith ac roeddwn i'n ôl ac ymlaen o'r uned damweiniau ac argyfwng.

Image caption Mae Georgia Lawson wedi ceisio lladd ei hun nifer o weithiau

"Doeddwn i ddim eisiau codi o'r gwely yn bore, fe newidiodd fy archwaeth bwyd, a doeddwn i ddim eisiau gwneud unrhyw beth.

"Mae newid hwyliau yn un o'r pethau anoddaf am anhwylder personoliaeth ffiniol ac roeddwn i ar chwâl. Fe allen i fynd o fod yn iawn i fod eisiau lladd fy hun mewn 10 munud. Roedd hi'n anodd iawn."

Fe gafodd Georgia help ei ffrindiau, cefnogaeth gan y tîm iechyd meddwl lleol ac mewn canolfan galw heibio. Mae'n dweud bod bywyd yn llawer gwell nawr.

Mae hi'n gwirfoddoli gyda dau wasanaeth iechyd meddwl ac yn astudio ar gyfer gradd gyda'r Brifysgol Agored.

Osgoi mynd i'r pen

Mae'n dweud bod angen gwneud rhagor cyn i bobl fynd i argyfwng.

"Mae'r tir canol fel petai'n wag, mae fel petai bwlch enfawr rhwng gwasanaethau cymunedol a chleifion preswyl," meddai. "Mae timau argyfwng yn llenwi'r bwlch i ryw raddau, ond dim ond hyn a hyn allan nhw ei wneud.

"Petai adnoddau, rhestrau aros a thriniaethau ar gael yn fwy parod, fe allai hynny atal pobl rhag troi at hunanladdiad.

"Os gall pobl fynd i'r afael â'u problemau yn gyntaf, does dim rhaid i bethau fynd i'r pen."

Image caption Mae yna ffyrdd mwy cost effeithiol i helpu pobl osgoi argyfwng iechyd meddwl, medd Sara Moseley o Mind Cymru

Dywed Sara Moseley, cyfarwyddwr Mind Cymru, y gall pobl ei chael hi'n "eithriadol o anodd" i droi at wasanaethau hyd nes eu bod yn sâl iawn.

"Mae angen rhagor o fuddsoddi yn y maes yma ac ry' ni'n gwybod os ydy pobl yn cael help yn gynt, os ydyn nhw'n cael y cymorth cywir o ran argyfwng, mae pobl yn gwella gan fyw bywydau da.

"Ry' ni'n gwybod bod 'na lawer o wastraff yn y system. Mae ymyrryd adeg argyfwng yn gostus iawn, mae'n llawer mwy cost effeithiol i helpu pobl cyn iddyn nhw gyrraedd y pwynt yna."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gwella gwasanaethau "yn flaenoriaeth" dan gronfa gwerth £7m i arloesi wrth ddatblygu a thrawsnewid y ddarpariaeth iechyd meddwl.

Ychwanegodd y bydd hefyd yn flaenoriaeth wrth fuddsoddi rhan o'r £35m ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi yn eu cyllideb ddrafft ar gyfer iechyd meddwl ac anableddau dysgu.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol