Trefniant newydd o 'Anfonaf Angel' yn uno côr
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Trefniant newydd o 'Anfonaf Angel' yn uno côr

20 Rhagfyr 2018 Diweddarwyd 22:19 GMT

Ar S4C dros yr Wyl bydd cyfle i glywed trefniant newydd sbon o'r gan boblogaidd 'Anfonaf Angel'.

Daw hynny ddeng mlynedd wedi iddi gael ei chyfansoddi gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn.

Y bwriad oedd dod â nifer o bobl ynghyd sydd yn mynd trwy gyfnod anodd. Ac mae'n ymddangos fod cerddoriaeth yn gallu helpu pobl i oroesi cyfnodau anodd yn eu bywydau.

Mae Iwan Griffiths wedi bod yn clywed straeon aelodau o'r cor sydd wedi profi pa mor bwerus y gall cerddoriaeth fod.