Arian loteri: 'Deg gwaith mwy y pen' i Lundain na Chymru

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Loteri Genedlaethol yn dilyn fformiwla gan Lywodraeth y DU wrth ddosbarthu arian i brosiectau

Mae tair etholaeth yn Llundain wedi derbyn mwy o arian loteri na Chymru gyfan dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, yn ôl ymchwil gan BBC Cymru.

Fe wnaeth y ffigyrau ddangos bod Dinasoedd Llundain a Westminster, Holborn a St Pancras, a De Islington a Finsbury wedi derbyn dros £1.8bn ers 1999 gan y Loteri Genedlaethol.

Dros yr un cyfnod derbyniodd Cymru £1.4m, deg gwaith yn llai y pen na'r etholaethau yn Llundain.

Dywedodd y Loteri Genedlaethol eu bod yn darparu arian yn seiliedig ar fformiwla gan Lywodraeth y DU.

'Seiliedig ar boblogaeth'

Yn ôl Oswyn Hughes, pennaeth ymgyrchoedd y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, mae "nifer o resymau" am yr anghyfartaledd.

Mae hynny'n cynnwys y ffaith fod nifer o sefydliadau cenedlaethol yn Llundain, a'i leoliad fel cartref pencadlysoedd elusennau a mudiadau cenedlaethol.

Ychwanegodd bod y fformiwla wedi cael ei bennu gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a'i fod "yn bennaf seiliedig ar boblogaeth" yr ardal.

Mae BBC Cymru wedi holi i'r DMCS am sylw.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Oswyn Hughes bod "nifer o resymau" am yr anghyfartaledd

Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod gan y tair etholaeth yn Llundain boblogaeth o 396,059, gan olygu bod £4,640 wedi'i wario am bob person sy'n byw yno.

Roedd hynny dros 10 gwaith y lefel gafodd ei wario yng Nghymru, sef tua £450 y person.

"Mae dros 50,000 o brosiectau yng Nghymru wedi elwa o'r arian yma. Mae hyn yn amlwg wedi creu cyfleoedd anhygoel i brosiectau, cymunedau a phobl yn y cymunedau yma ar hyd Cymru dros y 25 mlynedd diwethaf," meddai Mr Hughes.

"Mae fy neges yn un syml: os oes gennych syniad am brosiect cymunedol ffantastig yn eich ardal, ym maes chwaraeon, celf, treftadaeth neu gymunedol, yna mae ein dosbarthwyr Loteri Genedlaethol eisiau clywed wrthoch chi."

Sut mae arian Loteri Cymru'n cymharu?

  • Mae Lloegr, gyda phoblogaeth o 55.62 miliwn, wedi derbyn tua £20.9bn = £376 y pen
  • Mae'r Alban, gyda phoblogaeth o 5.43 miliwn, wedi derbyn tua £2.45bn = £451 y pen
  • Mae Cymru, gyda phoblogaeth o 3.13 miliwn, wedi derbyn tua £1.41bn = £451 y pen
  • Mae Gogledd Iwerddon, gyda phoblogaeth o 1.87 miliwn, wedi derbyn tua £845m = £452 y pen

(Ffigyrau ONS a'r Loteri Genedlaethol)

Disgrifiad o’r llun,
Dylai'r loteri ystyried ariannu cymunedau tlotach mewn ffordd decach yn ôl Chris Evans, AS Islwyn

Dywedodd AS Islwyn, Chris Evans, bod y ffigyrau yn "bryder difrifol" a galwodd am ariannu cymunedau tlotach yn decach.

"Mae dinas Llundain a Westminster yn cael mwy na'i siâr o arian a dyma un o'r llefydd cyfoethocaf yn y wlad," meddai.

"Pan mae'r loteri yn rhannu eu harian, mae angen iddynt feddwl am ardaloedd tlotach yn hytrach na lleoliadau ac eiconau adnabyddus."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Neuadd Goffa Trecelyn yn ganolfan sydd wedi elwa o grant gan y Loteri Genedlaethol

Derbyniodd Neuadd Goffa Trecelyn yng Nghaerffili £5.5m o arian ar gyfer atgyweirio'r theatr a sinema art deco, gafodd ei hadeiladu yn 1924 i goffau dynion lleol fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae bellach yn cael ei ddefnyddio gan nifer o bobl, ac yn cynnwys dosbarthiadau dawnsio, gwnïo, celf, ioga a jazz, ac wedi "dod â bywyd newydd" i'r dref.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Joe Boulton, rheolwr marchnata Neuadd Goffa Trecelyn, na fyddai'r ganolfan wedi ail-agor oni bai am arian y Loteri

Yn ôl Joe Boulton, rheolwr marchnata Neuadd Goffa Trecelyn, ni fyddai'r prosiect yn bosib heb gymorth ariannol y Loteri Genedlaethol.

"Roedd yn ddechrau da i Neuadd Goffa Trecelyn," dywedodd Mr Boulton. "Ni fyddai'r drysau'r adeilad wedi agor i unrhyw un oni bai am arian y loteri, ac rydym wedi bod yn ffodus i'w dderbyn."

Un grŵp yn benodol sydd wedi cael budd mawr o'r ganolfan yw pobl hŷn.

Mae yna nifer o grwpiau yn defnyddio'r neuadd ddawnsio bob wythnos.

Disgrifiad o’r llun,
Mae nifer o bobl yn manteisio ar gael defnyddio neuadd ddawnsio'r ganolfan

"Mae'n dda iawn, ac rwyf yn ei ddefnyddio'n aml," meddai Cynthia James. "Rydym yn cyfarfod unwaith yr wythnos ar brynhawn Mercher.

"Roedd pawb yn defnyddio'r Memo pan oeddwn yn ferch fach, a phan ddirywiodd yr adeilad, roedd angen llawer o waith i'w drwsio."

Ychwanegodd Mary Dunt: "Mae'n arbennig, yn enwedig ers iddo gael ei atgyweirio. Mae'n bwysig iawn. Mae cymaint yn mynd ymlaen a rhywbeth i bawb - i bobl ifanc, i hen bobl, i blant ysgol."

"Roedd mewn cyflwr gwael iawn - roedd seddau'r theatr wedi pydru."

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r 400 o seddau yn theatr Canolfan Goffa Trecelyn wedi cael ail fywyd diolch i gymorth y Loteri Genedlaethol

Nododd adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin ym mis Ebrill bod elw Camelot, sy'n darparu'r loteri, wedi codi 122% ers 2009, ond bod arian at achosion da ond wedi codi 2%.

Dywedodd llefarydd ar ran Camelot: "Ers dechrau ein trydedd drwydded gweithredu yn 2009, mae'r arian blynyddol rydym yn ei roi i achosion da wedi tyfu i £277.3m, gydag elw cyfranddalwyr ar ôl treth yn yr un cyfnod wedi codi i £23.9m.

"Pan ystyriwch ein bod wedi llwyddo i ennill dros £6.9bn o werthiant y Loteri Genedlaethol yn 2017/18 a dychwelyd dros 95% o'r ffigwr yna - dros £6.6bn llynedd - i'r gymdeithas a'r enillwyr, mae ein helw o £68.4m yn fychan iawn.

"Y newyddion da yw ein bod wedi parhau i dyfu ein rhoddion i achosion da yn ystod hanner cyntaf 2018/19 - ac mae hynny'n newyddion gwych i'r holl brosiectau sy'n derbyn nawdd angenrheidiol wrth y Loteri Genedlaethol.

"Dan ofal Camelot, mae'r Loteri Genedlaethol wedi gwneud yn well na'i disgwyliadau gwreiddiol wrth godi dros £39bn i achosion da ers lansio yn 1994.

"Mae nawdd y Loteri Genedlaethol bellach wedi ei roi i dros 535,000 o brosiectau unigol - sydd gyfwerth ag oddeutu 190 o grantiau loteri i bob cod post."