Gwibdaith o amgylch Saith Rhyfeddod Cymru

Mae Saith Rhyfeddod y Byd yn adnabyddus i lawer ond tybed ydych chi'n gwybod am Saith Rhyfeddod Cymru?

Yn ôl hen bennill Saesneg o'r 1800au gan fardd anhysbys, dyma nhw:

Pistyll Rhaeadr and Wrexham Steeple,

Snowdon's mountain without its people,

Overton yew trees, Gresford bells,

Llangollen bridge and St Winifred's well.

Yn amlwg nid oedd y sawl a ysgrifennodd y gerdd wedi teithio llawer o'r wlad ar y pryd, ond dyma gipolwg ar ei uchafbwyntiau.

1. Pistyll Rhaeadr

Pistyll Rhaeadr
Image caption Pistyll Rhaeadr

Mae Afon Disgynfa yn disgyn tua 80m dros wyneb y graig i greu Pistyll Rhaeadr ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Dyma'r rhaeadr dalaf ym Mhrydain lle mae'r dŵr yn syrthio bellaf, heb rwystr. Mae hyd yn oed yn 'dalach' na rhaeadr enwog Niagra Falls!

Fel arfer mae'r lle'n ferw o ymwelwyr bob haf ac yn wag o bobl yn y gaeaf ond yn Ionawr 1917 rhewodd y rhaeadr a daeth pobl o bell ac agos i'w gweld.

Roedd yr olygfa'n ddigon o ysbrydoliaeth ar y pryd i'r llenor E Tegla Davies greu cyfres o straeon Tylwyth Teg o'r enw Tir Y Dyneddon a fu'n boblogaidd iawn gan blant Cymru.

Roedd E Tegla Davies wedi ei hudo gan y rhaeadr o rew: "Nid oedd yn debyg i bistyll wedi rhewi, ond megis teml wedi ei hadeiladu o risial wedi ei ymylu â ffriliau, a cholofnau wedi eu ffurfio o'r coed," meddai.


2. Tŵr Wrecsam

Silyn Wrecsam
Image caption St Giles yn Wrecsam

Codwyd Eglwys St Giles, Wrecsam, rhwng 1501 a 1507. Yn ôl y chwedl, codwyd sylfeini'r eglwys ar dir a elwir heddiw yn Brynffynnon ond dros nos roedd y gwaith adeiladu'n cael ei ddymchwel i'r llawr droeon gan ysbrydion.

Un noson wrth i'r muriau syrthio eto clywyd llais yn gweiddi: "Bryn-y-grog-, Bryn-y-grog!". Y bore wedyn symudwyd y cerrig, y cynion a'r seiri maen i gyd i Fryn-y-grog, chwarter milltir i ffwrdd, ac aeth y gwaith yn ei flaen o godi'r eglwys yn y fan honno yn gwbl ddi-stŵr.

Er mai St. Giles yw'r enw ar yr eglwys, Silyn Sant oedd ei enw go iawn. Roedd hyn am fod yr eglwys Gatholig yn gwrthod cydnabod unrhyw seintiau Celtaidd fel Silyn a'i gyfeillion, felly'r ateb oedd dewis yr enw arall, yn yr achos yma, Sant Giles.

Meddai bardd o'r cyfnod: "Monwent hardd a meini teg!". Un o'r meini teg hynny yn y fynwent yw carreg fedd Elihu Yale (1649 - 1721) sylfaenydd yr enwog Brifysgol Iâl (Yale University) yn America. Yn Connecticut, er cof amdano, codwyd copi o dŵr eglwys St. Giles fel un o adeiladau coleg Saybrook, rhan o Brifysgol Iâl.

Saybrook
Image caption Coleg Saybrook draw yn Unol Daleithiau America

3. Yr Wyddfa

Yn ôl Yr Athro Bedwyr Lewis Jones a oedd yn awdurdod ar enwau llefydd, mae tarddiad enw'r mynydd yn hawdd. Mae unrhyw gopa neu garnedd yn fan amlwg a'r hen air am amlwg yw 'gŵydd'. Mae'r gair 'ma' wedyn yn golygu 'man' neu 'lle'.

Rhowch y ddau at ei gilydd a threiglo a daw 'gwydd-fa' sef 'y man amlwg'. Mae'r treiglo ar ôl y fannod yn newid yr enw i Yr Wyddfa!

Wyddfa Image copyright Alex Meacock, Camera Drone UK
Image caption Copa'r Wyddfa a Hafod Eryri

Heb os nac oni bai un o brif atyniadau unrhyw fynydd yw ei gopa a bob blwyddyn mae Rheilffordd yr Wyddfa'n cludo cannoedd o filoedd o ymwelwyr o bentref Llanberis bob cam i dop y mynydd, pellter o dros bedair milltir.

Ar fore Llun, 6ed o Ebrill 1896, cludodd y trên cyntaf erioed i'r copa, griw o deithwyr yn eu dillad a'u hetiau crand. Ond wrth ddod i lawr y mynydd, roedd cymaint o bwysau yn y cerbydau llawn fel na allai'r gyrrwr reoli'r injan. Llithrodd yr olwynion oddi ar y cledrau a methodd y brêc â gweithio. Wrth i'r trên gyflymu'n gynt ac yn gynt neidiodd y gyrrwr a'r taniwr oddi ar yr injan.

Dyna hefyd wnaeth dyn lleol, Ellis Roberts, ond tarodd ei ben ar y creigiau. Plymiodd yr injan dros erchwyn y dibyn gan lanio wrth droed y mynydd yn deilchion. Ond diolch i'r brêc awtomatig daeth cerbydau'r teithwyr i stop yn ddiogel.

Bu farw Ellis Roberts ychydig ddyddiau wedyn o'r anafiadau i'w ben. Dyma'r unig ddamwain angheuol yn hanes y rheilffordd erioed.


4. Coed yw yr Owrtyn

Coed yw yr Owrtyn Image copyright August Schwerdfeger
Image caption Un o'r coed yw anferth, hynafol yn Owrtyn

Ym mynwent eglwys Owrtyn ger Wrecsam (Overton-on-Dee) mae 21 coeden ywen, sylweddol iawn eu maint, yr hynaf tua 2,000 oed.

Yn yr hen, hen oes roedd yr ywen yn bren cysegredig ac yn cael ei gysylltu â bywyd hir felly roedd y tir o'u hamylch yn cael ei ystyried yn sanctaidd. Yn ystod angladdau byddai'n arferiad gan yr hen Gymry i dorri canghennau o'r goeden a'u taflu i mewn i'r bedd cyn gollwng yr arch i'w lle.

Yn ystod y Canol Oesoedd, yn ôl Cyfreithiau Hywel Dda roedd gwahanol werth i goed. Roedd derwen werth chwech ugain ceiniog, pren draenen yn saith geiniog a dime, ond roedd ywen a oedd â chysylltiad â sant arbennig werth y swm enfawr o bunt!

Coed yw yr Owrtyn Image copyright August Schwerdfeger
Image caption Mae rhai o'r coed angen cymorth i beidio disgyn...

5. Clychau Gresffordd

Codwyd yr eglwys wreiddiol yng Ngresffordd yn yr 1200au gan Trahaearn ap Ithel ap Eunydd a'i bum brawd, ond does fawr o ddim o honno i'w weld heddiw.

Bu nifer o ychwanegiadau ers hynny ac mae'r eglwys yn adeilad go fawr erbyn hyn. Yn bennaf mae'r eglwys yn enwog am ei chlychau, sydd meddan nhw, yn canu gyda'r cliriaf o holl glychau eglwysi Cymru.

Y cofnod cynharaf ohonynt yn atseinio drwy'r ardal yw 1714 pryd y cafodd offer ei ddyfeisio i alluogi un dyn i ganu pob un gloch, yr un pryd. Mae hynny'n dipyn o gamp gan fod y gloch fwyaf yn pwyso tunnell a chwarter (yr un pwysau â dau gar teuluol cyffredin)!

Yn seler Eglwys Gresffordd, yn ddiogel mewn cas gwydr, mae'r clap olaf o lo a gloddiwyd o Lofa Gresffordd cyn y drychineb fawr ym 1934. Lladdwyd 266 o ddynion.

Yn yr oriau wedi'r drychineb, ymgasglodd torf fawr o berthnasau a glowyr wrth geg y pwll i aros am newyddion Image copyright Gresford Disaster NWMAT
Image caption Yn yr oriau wedi'r drychineb yng Nglofa Gresffordd, ymgasglodd torf fawr o berthnasau a glowyr wrth geg y pwll i aros am newyddion

6. Pont Llangollen

Codwyd y bont bresennol sydd yng nghanol tref Llangollen gan John Trevor I oedd yn Esgob Llanelwy a Changhellor Caer, tua 1436 - ar y pryd yr unig bont gadarn a groesai'r Afon Ddyfrdwy - a'r un sydd yn sefyll hyd heddiw.

Bu sawl pont bren dros yr afon cyn hynny ond chwalwyd y rheiny gan lifogydd, droeon.

Pont Llangollen
Image caption Pont Llangollen, gyda baneri rhyngwladol i groesawu cystadleuwyr Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen sydd yn y dref pob blwyddyn

Mae nifer o welliannau wedi eu gwneud i'r bont dros y canrifoedd er mwyn dygymod â'r holl draffig sydd yn mynd drosti.

Ar ddiwrnod sych mae tua 270 miliwn litr o ddŵr yn llifo dan bont Llangollen mewn 24 awr ac ar dywydd mawr yn y gaeaf oddeutu 2,500 miliwn litr, sydd tua 1,000 o byllau nofio maint Olympaidd!


7. Ffynnon Gwenffrewi

Santes Gymreig, hardd iawn oedd Gwenffrewi. Syrthiodd dyn ifanc o'r enw Caradog dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â hi. Ond nid oedd Gwenffrewi'n cymryd dim sylw ohono. Felly penderfynodd Caradog ei chodi yn ei freichiau gyda'r bwriad o fynd â hi adref. Dihangodd y ferch ac yn ei wylltineb estynnodd Caradog ei gleddyf a thorri ei phen i ffwrdd.

Syrthiodd pen Gwenffrewi i'r llawr a rhowlio lawr allt, drwy ddrws eglwys gyfagos a glanio wrth draed Beuno Sant. Cododd Beuno'r pen, gweddïodd am funud neu ddau cyn ei osod yn ôl ar 'sgwyddau Gwenffrewi a daeth ei chorff a'i phen yn ôl yn un.

Ffynnon Gwenffrewi
Image caption Safle ffynnon Gwenffrewi

Yn y fan a'r lle cododd ffynnon a elwir erbyn heddiw'n Ffynnon Gwenffrewi, yn Nhreffynnon, Fflint.

Wedi'r profiad ysgytwol hwnnw symudodd Gwenffrewi i ble mae pentref Gwytherin heddiw ac yno y bu'n byw fel lleian cyn ei hail 'farwolaeth', un llawer iawn mwy naturiol, tua'r flwyddyn 660.

Mae Ffynnon Gwenffrewi hyd heddiw yn enwog fel lle i wella afiechydon. Dyma'r unig le ym Mhrydain gyda hanes di-dor o bererindota cyhoeddus ers 1,300 o flynyddoedd.

Yn nyfroedd y ffynnon mae sawl carreg ac arnynt farciau cochion, gwaed Gwenffrewi yn ôl yr hen goel. Mae cerdd gan fardd anhysbys o tua 1823 yn adleisio'r hen gred honno:

Ar y cerrig, yn y ffynnon

Mae y gwaed yn amlwg ddigon,

Yr hwn a gollodd Winiffreda

Pan ga'dd ei phen ei dorri yma...

Gwenffrewi
Image caption Santes Gwenffrewi, a fu farw ddwywaith

Hefyd o ddiddordeb...

Pynciau Cysylltiedig