Wrecsam 3-0 Boston United

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam drwodd yn gyffyrddus i ail rownd yr FA Trophy ar ôl curo Boston United 3-0 ar y Cae Ras.

Roedd Wrecsam, wnaeth gipio'r tlws yn 2013, ddwy gôl ar y blaen o fewn deg munud diolch i Chris Holroyd a Mike Fondop.

Paul Rutherford sgoriodd y gôl arall cyn yr egwyl ar ôl gwrth ymosod cyflym.