Uwch Gynghrair Lloegr: Watford 3-2 Caerdydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Watford yn dathlu gôl Jose Holebas

Bu bron i Gaerdydd achub pwynt o gêm oedd ar un adeg yn edrych ymhell o'u gafael ac yn debycach i grasfa.

Sgoriodd yr Adar Gleision ddwywaith yn y 10 munud olaf yn Vicarage Road.

Cyn hynny roedd Watford wedi edrych yn gyffyrddus gyda goliau crefftus gan Gerard Deulofeu, Jose Holebas a Domingos Quinas yn eu rhoi 3-0 ar y blaen.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Watford ers mis Hydref a'r tro cyntaf i'r ddau dîm gwrdd yn yr Uwch Gynghrair.

Doedd perfformiad Caerdydd heb fod yn un llawn egni ond daeth adfywiad tua'r diwedd.

Junior Hoilett yn ergydio heibio Ben Foster sgoriodd y cyntaf, ac yna Bobby Reid, yn manteisio wrth i'r bêl fynd yn rhydd yn y blwch cosbi, yn ychwanegu'r ail.