Y gwasanaeth tân yn cyfrif eu colledion wedi deufis costus
- Cyhoeddwyd
Roedd Gorffennaf ac Awst eleni yn ddrytach i wasanaethau tân Cymru na 12 mis pob un o'r pedair blynedd diwethaf.
Gwariodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru bron i £300,000 yn rheoli un tân, tra bod gwariant gwasanaeth de Cymru wedi treblu gwariant y blynyddoedd blaenorol mewn cyfnod o ddau fis.
Wrth i danau gwyllt ddifrodi coedwigoedd a glaswelltir ar draws y wlad, cafodd bywyd gwyllt ei ddinistrio a chafodd pobl eu hel o'u cartrefi.
Awgrymodd yr heddlu ar y pryd bod rhai tanau wedi'u cynnau'n fwriadol.
Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru drwy Gais Rhyddid Gwybodaeth fe wariodd y Gwasanaeth Tân 80% o'u gwariant blynyddol rhwng Gorffennaf ac Awst.
Dyma beth oedd y sefyllfa drwy'r wlad :-
De Cymru
Roedd mis Gorffennaf ac Awst dair gwaith yn fwy costus i Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru na'r 12 mis yn 2017, 2016, 2015 a 2014.
Fe gafodd y gwasanaeth eu galw i fwy o danau gwair yn y ddeufis yna eleni na drwy gydol 2017 a 2016.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân, er bod costau ariannol mynd i'r afael â'r tanau yn "amlwg", roedd costau "colli bywyd gwyllt" a niwed i'r ecosystemau "yn anodd eu hamcangyfrif".
"Beth sy'n glir yw bod yr effaith wedi bod yn ddinistriol a bydd yn cymryd cyfnod o amser i ailadeiladu," ychwanegodd y llefarydd.
Gogledd Cymru
Datgelodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi gwario £400,000 ychwanegol mewn costau personél ym mis Gorffennaf ac Awst, gan gynnwys £290,000 ar un achos o dân yn Llantysilio yn Sir Ddinbych, a losgodd am 40 diwrnod.
Ym mis Gorffennaf, bu'n rhaid i 15 o deuluoedd adael eu tai wrth i ddiffoddwyr frwydro tân milltir o hyd ar Fynydd Cilgwyn yng Ngharmel, ger Caernarfon.
Dywedodd Stuart Millington, uwch reolwr gweithrediadau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod tanau eleni wedi cael effaith "arbennig o arwyddocaol" ar gyllideb y gwasanaeth.
"Gall y tanau gwyllt hyn roi pwysau aruthrol ar ein hadnoddau gan fod mynediad yn aml yn anodd iawn ac mae'n bosib y bydd angen ein presenoldeb dros gyfnod hir o amser i ddod â nhw dan reolaeth," meddai.
"Roedd hyn yn arbennig o wir am dân Llantysilio, pan wnaethom ni symud criwiau hefyd o ymhellach i ffwrdd i sicrhau'r defnydd gorau o'n hadnoddau."
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Roedd haf Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gymharol dawel o'i gymharu â gwasanaethau tân eraill, ond roedd Gorffennaf ac Awst yn ddrutach na 12 mis 2017, 2016 a 2014, ac yn cyfrif am 60% o'i wariant yn 2018.
Y tân yng Ngorseinon, ar 26 Gorffennaf, oedd tân mwyaf drud i'r gwasanaeth ei frwydro ar ôl llosgi am 27 awr.
Dywedodd llefarydd mai'r tywydd oedd ar fai am y difrod, gan ychwanegu nad oedd yn "ymwybodol o ymddygiad gwrthgymdeithasol".
Pam a phwy sy'n cychwyn y tanau?
Mae'r Athro Theresa Gannon, seicolegydd fforensig ym Mhrifysgol Caint, wedi gwneud ymchwil i pam fod pobl yn dechrau tanau gwyllt.
Dywedodd fod yna "ddau ymgeisydd allweddol": y rhai sydd wedi diflasu, a'r rhai sydd â "diddordeb amhriodol" mewn tân.
Diflastod yw'r achos mwyaf tebygol ar gyfer tanau'r haf, meddai.
"Ni allwn ddweud ffynhonnell y diflastod - gallai fod yn straen yn yr ysgol, nid oes cymaint o weithgareddau i'w gwneud, neu wedi'u diflasu wrth gerdded gyda ffrindiau," ychwanegodd yr Athro Gannon.