Bangor v Caernarfon ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, David Rawcliffe/CBDC
Mae'r enwau allan o'r het ar gyfer pedwaredd rownd Cwpan Cymru, a'r gêm sy'n tynnu'r sylw yn syth yw Bangor i wynebu eu hen elynion Caernarfon yn Stadiwm Nantporth.
Bydd deiliaid y cwpan, Cei Connah yn ymweld â Chaerfyrddin ac mae'r clwb isaf ei safle yn y pyramid pêl-droed (sy'n dal yn y gystadleuaeth), Llangefni, wedi sicrhau gêm gartref yn erbyn Llandudno.
Mae dwy gêm yn cynnwys dau dîm o'r Uwch Gynghrair yn wynebu ei gilydd wrth i'r Barri baratoi i wynebu Derwyddon Cefn ac Aberystwyth i groesawu MET Caerdydd.
Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar benwythnos 25 a 26 Ionawr.
Y Gemau'n llawn:
- Caerfyrddin v Cei Connah
- Hwlffordd v Fflint neu'r Bala
- Bangor v Caernarfon
- Y Barri v Derwyddon Cefn
- Airbus v Y Seintiau Newydd
- Cambrian a Clydach v Y Rhyl
- Aberystwyth v MET Caerdydd
- Llangefni v Llandudno