Cefnogwyr pêl-droed hoyw 'ofn' mynychu gemau
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn honni fod cefnogwyr pêl droed hoyw yn cadw i ffwrdd rhag mynychu gemau o ganlyniad i homoffobia.
Yn ôl gwaith ymchwil gan Pêl-Droed v Homoffobia, mae 63% o gefnogwyr pêl-droed LGBT+ wedi dioddef neu glywed camdriniaeth mewn gemau dros eu rhywioldeb.
Mae ffigyrau hefyd yn dangos fod 65% o gefnogwyr cartref a 72% o gefnogwyr oddi-cartref o glybiau cynghrair ddim yn adrodd ar unrhyw weiddi homoffobig neu transffobig.
Dywedodd Adam Smith i Pride Cymru fod "pawb yn haeddu mwynhau chwaraeon."
'Anodd dod allan'
Cardiff Dragons yw'r tîm pêl-droed LGBT+ cyntaf yng Nghymru ac yn ôl eu rheolwr Dario Guittiere mae "nifer o stereoteipio yn parhau."
"Dwi'n credu dyna pam mae nifer o ddynion sy'n chwarae pêl-droed sydd eisiau bod yn agored am eu rhywioldeb yn ei gweld hi'n anodd dod allan.
"Mae'n wahanol yn gêm y merched oherwydd mae sawl merch sy'n chwarae pêl droed yn broffesiynol yn agored am eu rhywioldeb.
"Mae pethau wedi gwella ond mae 'na dal lot i'w wneud," meddai.
Mae Casnewydd yn y broses o sefydlu grŵp cefnogwyr LGBT+.
Mae Mr Smith sy'n gefnogwr Casnewydd a Chadeirydd rainbow Newprt wedi dweud nad yw wedi dioddef camdriniaeth homoffobig mewn gemau pêl-droed.
Ond, mae rhai o'i ffrindiau o glybiau eraill wedi stopio mynd i gemau oherwydd y sylwadau sarhaus.
'Codi ymwybyddiaeth'
"Mae pêl droed yn gamp sy'n dod a phobl at ei gilydd, Rhowch bêl-droed i grŵp o blant ac yn syth maen nhw'n dod at ei gilydd i chwarae.
"Nid oes angen newid y gêm dim ond rhai elfennau o gymdeithas.
"Drwy gael grŵp gefnogwyr LGBT+ rydym yn gobeithio gallwn godi ymwybyddiaeth a chael mwy o bobl i fynychu gemau ac ymwneud mwy gyda'r clwb ble na fydden nhw fel arfer," meddai.
Mae Cymdeithas Bel Droed Cymru wedi dweud y bydden nhw'n parhau i gefnogi gwaith sy'n cael ei gyflawni gan grwpiau LGBT+ ar lefel cenedlaethol ac ar lawr gwlad.