Cwpan Her Ewrop: Northampton Saints 48-14 Dreigiau

Dan Biggar Image copyright Getty Images
Image caption Roedd ciciau cywir Dan Biggar yn allweddol i fuddugoliaeth Northampton yn erbyn y Dreigiau

Fe giciodd Dan Biggar wyth pwynt wrth i Northampton ennill o 48-14 yn erbyn y Dreigiau yng Nghwpan Her Ewrop.

Fe groesodd Luther Burrell gyda llai na munud ar y cloc cyn i Api Ratuniyarawa a James Fish ychwanegu mwy o bwyntiau yn yr hanner cyntaf i'r tîm cartref.

Llwyddodd Adam Warren i gau'r bwlch gyda chais, cyn i Burrell ac Alex Mitchell ymateb.

Roedd dau gais gan Taqele Naiyaravoro yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i Northampton.

Croesodd Nic Cudd am gais hwyr i'r Dreigiau ac fe sgoriodd Ollie Sleightholme wythfed cais Northampton.

Pynciau Cysylltiedig