Cynghrair Cenedlaethol Lloegr: Wrecsam 2-0 Eastleigh

James Jennings Image copyright Getty Images
Image caption James Jennings sgoriodd gôl gyntaf Wrecsam wedi dau funud yn erbyn Eastleigh

Wedi tair gêm heb ennill fe lwyddodd Wrecsam i drechu Eastleigh o 2-0 ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Gyda llai na dau funud ar y cloc roedd Wrecsam ar y blaen. Ergyd James Jennings yn hedfan heibio i Maksymilian Stryjek yn y gôl i'r ymwelwyr.

Ar yr awr fe ddyblodd Wrecsam eu mantais diolch i gôl gan Bobby Grant.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Wrecsam i'r pedwerydd safle yn nhabl Cynghrair Cenhedlaeth Lloegr.