Cwpan y Pencampwyr: Scarlets 24-25 Ulster

Jonathan Davies Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Jonathan Davies yn amlwg drwy gydol y gêm - ond doedd hynny ddim yn ddigon i atal colled arall i'r Scarlets

Mae taith y Scarlets yng Nghwpan y Pencampwyr mwy neu lai ar ben ar ôl colli 24-25 yn erbyn Ulster nos Wener.

Roedd yn rhaid i'r Scarlets guro er mwyn cadw unrhyw obeithion realistig o aros yn y gystadleuaeth yn fyw.

Ond yr ymwelwyr oedd y tîm cryfaf mewn gêm gyffrous ar Barc y Scarlets mewn amodau anodd.

Sgoriodd Ulster bedwar cais i sicrhau pwynt bonws, gan adael y Scarlets heb ennill yr un o'u tair gêm yn Ewrop y tymor hwn.

Doedd dau gais yr asgellwr Steff Evans, na chais hwyr yr eilydd Dan Davis, yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.

Scarlets:

Johnny McNicholl; Tom Prydie, Jonathan Davies, Kieron Fonotia, Steff Evans; Rhys Patchell, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens (capten), Samson Lee, Lewis Rawlins, David Bulbring, Will Boyde, James Davies, Uzair Cassiem.

Eilyddion: Ryan Elias, Wyn Jones, Werner Kruger, Steve Cummins, Dan Davis, Sam Hidalgo-Clyne, Dan Jones, Hadleigh Parkes.

Ulster:

L Ludik; H Speight, W Addison, S McCloskey, J Stockdale; B Burns, J Cooney; E O'Sullivan, R Best (capt), M Moore, I Henderson, K Treadwell, S Reidy, J Murphy, M Coetzee.

Eilyddion: R Herring, K McCall, T O'Toole, M Rea, N Timoney, D Shanahan, J McPhillips, D Cave.

Pynciau Cysylltiedig