Gwrthdrawiad difrifol yn cau heol yng Nghaerffili

car

Bu'r A468 yng Nghaerffili ynghau am rai oriau yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng tri cherbyd fore Gwener.

Dywedodd Heddlu Gwent iddyn nhw dderbyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng dau gar a lori toc cyn 11:00.

Mae un fenyw wedi cael ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol a all beryglu'i bywyd.

Cyhoeddodd Heddlu Gwent toc wedi 17:30 bod y ffordd rhwng cylchfannau Corbett's a St Cenydd bellach wedi ail-agor.

Pynciau Cysylltiedig