Gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A470 yn Llyswen

car heddlu

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Llyswen fore Sadwrn.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Ford Focus glas a Lori wen ar ffordd yr A470 am 05:45.

Bu farw gyrrwr y car yn y fan ar lle.

Mae teulu'r gyrrwr yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ar hyn o bryd.

Mae'r ffordd rhwng Llyswen a Phontybat bellach wedi ail agor ar ôl bod ar gau am dros wyth awr.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig