Apêl heddlu wedi damwain angheuol ar yr M4

Car Heddlu

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar gyffordd yr M4 fore Gwener.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 04:00 i lon ddwyreiniol y ffordd rhwng cylchfan Pont Abraham a chyffordd 48, Pontarddulais.

Bu farw dyn oedd yn gyrru car Vauxhall Vectra glas yn y digwyddiad. Dyna oedd yr unig cerbyd yn y digwyddiad.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Roedd tagfeydd yn ymestyn dros filltir ar y ffordd yn ystod cyfnod prysur fore Gwener, ond mae'r ffordd bellach wedi ei ailagor.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y ffordd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad i gysylltu drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig