Rhybudd melyn am law dros rannau o'r de fore Gwener

Rhybudd Melyn Image copyright Y Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm dros rannau o dde Cymru fore ddydd Gwener.

Bydd y rhybudd am rhwng 20-40mm o law mewn grym rhwng 01:00 a 09:00.

Dywedodd y rhybudd bod disgwyl dŵr ar wyneb y ffyrdd, sy'n debyg o wneud amodau gyrru yn anodd mewn mannau.

Mae disgwyl hefyd y bydd effaith ar drafnidiaeth gyhoeddus, gydag oedi neu ganslo gwasanaethau trenau a bysiau yn ogystal â'r posibilrwydd o lifogydd dros dro.

Roedd rhybudd arall am wyntoedd cryfion yn y gogledd ar gyfer ddydd Gwener, ond nid yw'r rhybudd yma mewn grym mwyach.

Pynciau Cysylltiedig