Darganfod corff wrth ymchwilio i lofruddiaeth Caerdydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Dyw Mohamed Megherbi heb gael ei weld ers 9 Hydref

Mae corff wedi ei ddarganfod gan swyddogion yr heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth dyn yng Nghaerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y corff wedi ei ddarganfod mewn ardal goediog ger Canolfan Hamdden Pentwyn ddydd Gwener.

Dyw Mohamed Megherbi, 24 ac yn wreiddiol o Algeria, heb gael ei weld ers mis Hydref.

Mae Kane Burns, 26 o Lanedern, Caerdydd, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth Mr Megherbi.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Gareth Morgan bod swyddogion wedi darganfod y corff "wedi ei guddio yn y goedwig".

"Nid yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol ond mae profion yn cael eu cynnal ac mae'r ardal yn cael ei chwilio."

Ychwanegodd bod yr heddlu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un sy'n cerdded drwy'r goedwig yn aml a welodd unrhyw beth amheus yn ddiweddar.