Gosod targedau i gyrraedd nod o leihau allyriadau o 80%

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, PA

Mae targedau newydd i geisio lleihau allyriadau ('emissions') carbon yng Nghymru wedi eu cyhoeddi.

Maen nhw'n rhan o gynllun i ostwng allyriadau carbon o 80% erbyn 2050.

Mae'r targedau, sydd â gorfodaeth gyfreithiol, yn seiliedig ar lefelau carbon yn yr amgylchedd yn 1990.

Bydd yn golygu bod angen toriad o 27% erbyn 2020, 45% erbyn 2030 a 67% erbyn 2040 - sy'n cyd-fynd â chyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Bydd cynllun gweithredu yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth, a bydd Aelodau Cynulliad yn trafod y targedau yn ddiweddarach.

Methu targed

Mae'r pwyllgor, sy'n cynghori'r llywodraethau datganoledig, yn dweud fod torri allyriadau yng Nghymru yn fwy heriol oherwydd pwysigrwydd amaethyddiaeth a diwydiant trwm i economi Cymru.

Mae Cymru hefyd yn allforio ynni mae'n ei greu i wledydd eraill y DU.

Disgrifiad o’r llun,
Mae gorsaf bŵer Aberddawan ym Mro Morgannwg yn un o'r safleoedd sydd ag allyriadau uchel

Nid yw'n debygol y bydd Cymru'n cyrraedd targed sydd eisoes wedi ei osod i leihau allyriadau o 40% erbyn 2020. Dywedodd ACau bod hynny'n "siomedig iawn".

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod gostyngiad o 19% ar lefelau 1990, o'i gymharu â thoriad o 38% dros y DU gyfan.

Bydd y targedau newydd yn cwmpasu holl allyriadau'r wlad, er y gred yw bod tua 57% ohonyn nhw y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru.

Maen nhw'n cynnwys allyriadau o safleoedd fel gorsaf bŵer Aberddawan a gwaith dur Port Talbot, sy'n rhan o gynllun yr Undeb Ewropeaidd sy'n galluogi i rai cwmnïau dalu mwy am allyriadau ychwanegol wrth i gwmnïau eraill dorri'n ôl.

'Chwyldro carbon isel'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig y byddai gostwng allyriadau carbon yn "lleihau effaith byd-eang tywydd eithafol yn y dyfodol", yn ogystal â manteision economaidd ac iechyd.

Yn ôl Lesley Griffiths mae'n "rhaid i Gymru chwarae ei rhan yn yr her fyd-eang hon a'r chwyldro carbon isel" ac mae'r targedau yma'n "dangos ein bod yn gwerthfawrogi bywydau a bywoliaeth cenedlaethau'r dyfodol cymaint â'n bywydau ein hunain".