'Angen datganoli y system gyfiawnder yng Nghymru'

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
'Rhaid datganoli y system gyfiawnder yng Nghymru er mwyn atal aildroseddu,' medd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol

Mae hi'n fwy anodd atal troseddu yng Nghymru oherwydd nad ydi'r system gyfiawnder wedi ei datganoli, yn ôl Cwnsler Cyffredinol Cymru.

Dywedodd yr aelod cynulliad Jeremy Miles y dylid symud y cyfrifoldeb am garchardai, plismona a'r gwasanaeth prawf o San Steffan i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf dywedodd mai un o'r problemau mwyaf ydi'r ffaith bod rhai gwasanaethau sy'n rhoi cefnogaeth i garcharorion ar ôl eu rhyddhau wedi eu datganoli ond bod y system gyfiawnder yn dal i gael ei gweinyddu o Lundain.

Ychwanegodd Mr Miles: "Os edrychwch chi ar atal trosedd mae ganddo chi elfennau sy'n cael eu cydlynu fel cosb a throsedd a charchardai ar un llaw ond wedyn mae lot o'r gwasanaethau yna hefyd yn ymwneud ag iechyd, iechyd meddwl, gwasanaethau tai a gofal.

"Felly mae'n anodd cael darlun cyflawn a darparu gwasanaethau sy'n cael eu cydlynu ac sy'n cydweithio os nad ydi'r cyfan wedi eu datganoli. Mae hynny'n golygu ei bod hi'n fwy anodd yng Nghymru i atal troseddau a chael system sy'n addas i'n anghenion ni yma."

Disgrifiad,
Diffyg datganoli yn creu "ffiniau anghyfleus"

'Un system yn effeithiol'

Ond mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwrthod ei ddadl gan ddweud bod yna amcangyfrif y byddai datganoli cyfiawnder yn costio dros gan miliwn o bunnau yn flynyddol ac yn dyblygu gwasanaethau.

"Rydym yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru a'r asiantaethau sydd wedi eu datganoli ac mae gennym yr hyblygrwydd i addasu gwasanaethau ar gyfer Cymru yn benodol pan fo angen gwneud hynny. Mae hynny'n golygu mai un system gyfiawnder ydi'r ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o weinyddu cyfiawnder yn Lloegr a Chymru, " meddai llefarydd.

Ers mis Rhagfyr y llynedd fodd bynnag - ar gais Llywodraeth Cymru - mae 'na Gomisiwn annibynnol wedi bod yn adolygu'r drefn gyfiawnder yng Nghymru gyda'r bwriad o lunio argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Mae Canolfan Lywodraethiant Cymru - sy'n rhan o Brifysgol Caerdydd - wedi comisiynu sawl darn o waith ymchwil ar y drefn garcharu yn benodol.

Yn ôl y gwaith hwnnw roedd pedwar allan o bob 10 carcharor o Gymru yn cael eu cadw mewn carchar dros y ffin y llynedd.

"Mae gennych chi batrwm o garcharorion o Gymru ar chwâl reit i fyny i ogledd ddwyrain Lloegr. Mi all rhai pobl ddeud - eitha' reit i bobl sydd wedi troseddu - ond be da ni yn ei wybod ydi bod 'na gysylltiad agos iawn iawn rhwng lefelau aildroseddu â gallu pobl i gadw cysylltiad gyda ffrindiau a theulu. Ac os ydi'r cysylltiad hwnnw yn diflannu mae nhw yn lot fwy tebygol o aildroseddu," medd Cyfarwyddwr y ganolfan Yr Athro Richard Wyn Jones."

Disgrifiad o’r llun,
'Rhaid cadw teuluoedd gyda'i gilydd,' medd Brian Lewis o Jigso

Un grŵp sy'n ceisio cadw'r cysylltiad rhwng y teulu a'r troseddwr yn y gogledd ydi Jigso. Mae nhw'n trefnu gwasanaeth bws rheolaidd o rai o drefi'r gogledd i garchar Altcourse ger Lerpwl. Yn ôl Brian Lewis byddai'n amhosib i rai teuluoedd - yn arbennig mewn ardaloedd gwledig - i ymweld â'u hanwyliaid oni bai am y gwasanaeth yma.

"Mae'n rhaid cadw teulu hefo'i gilydd i helpu'r person sydd yn y carchar. Wedyn pan mae'r carcharor yn dod allan mae gynnon nhw gysylltiad hefo'r teulu o hyd," meddai Brian Lewis.

Dywed y Weinyddiaeth Gyfiawnder mai polisi'r gwasanaeth carchardai ydi ceisio cadw carcharorion o Gymru mewn carchardai yng Nghymru pan fo hynny'n bosib.

Ar ran y Ceidwadwyr yn y cynulliad dywedodd Suzy Davies nad oedden nhw am wneud sylw ar yr egwyddor o ddatganoli cyfiawnder gan fod y Comisiwn yn dal i ystyried tystiolaeth.

Mi fydd y Comisiwn yn cyflwyno ei gasgliadau ac argymhellion y flwyddyn nesa.

Wrth gyfeirio at amserlen unrhyw ddatganoli mae Jeremy Miles yn dweud na fyddai'r broses yn digwydd dros nos.

"Dyw e ddim yn rhywbeth sy'n gorfod digwydd ar unwaith ond rhywbeth y gallai esblygu dros gyfnod sy'n addas. Mae'n rhywbeth y bydd y Comisiwn yn ei argymell dwi'n credu," ychwanegodd Mr Miles.