Derby 2-1 Abertawe

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,
Sgoriodd y Cymro Harry Wilson ddwy gôl yn yr hanner cyntaf.

Y Cymro Harry Wilson oedd arwr Derby wrth iddyn nhw drechu Abertawe.

Sgoriodd Wilson ddwy gôl o fewn 10 munud yn yr hanner cyntaf i ddigalonni tîm ifanc Abertawe.

Daeth y gôl agoriadol ar ôl hanner awr ac fe ychwanegodd Wilson un arall cyn yr egwyl.

Tri munud o'r diwedd fe ddaeth yr ymwelwyr yn ôl i'r gem - Florian Jozefzoon yn taro'r bel i'w rwyd ei hun o dan bwysau gan Leroy Fer.

Bu Abertawe yn ymosod yn ystod yr eiliadau olaf, ond roedd tîm Frank Lampard yn haeddu'r fuddugoliaeth ar ôl rheoli cyfnodau hir o'r gêm.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,
Cymro arall ,Tom Lawrence, yn herio amddiffyn Abertawe