Trafod cau eglwysi ym Mro Eifionydd i arbed arian

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Mae Eglwys Aber-erch yn un o'r rheiny allai gau

Gallai nifer o eglwysi ym Mro Eifionydd orfod cau er mwyn arbed arian i'r Eglwys yng Nghymru.

Dan y cynllun sy'n cael ei drafod byddai gwasanaethau ond yn cael eu cynnal mewn tair o 10 eglwys yr ardal weinidogaethol.

Byddai hynny'n golygu cau eglwysi Aber-erch, Llangybi, Llanarmon, Llanystumdwy, Treflys ger Morfa Bychan, a Dolbenmaen.

Dywedodd warden yn Eglwys Sant Cawrdaf yn Aber-erch ei fod yn "gyfnod trist, ond am wn i does 'na ddim dewis".

'Nid asiantaeth dai sanctaidd'

Dan y cynllun, byddai gwasanaethau yn eglwysi Sant Cyngar ym Morth-y-gest, Santes Fair ym Meddgelert a'r Santes Catherine yng Nghricieth.

Y bwriad yw parhau ag addoldy ym Mhorthmadog, ond mae'n debyg mai'r hyn sy'n cael ei ystyried yw cau Eglwys Sant Ioan a dod o hyd i adeilad mwy addas.

Dywedodd Siôn Evans, ysgrifennydd Esgobaeth Bangor bod y ddegawd diwethaf yn "gyfnod o ddeall o'r newydd nad ydym wedi'n galw i gynnal a chadw... nid asiantaeth dai sanctaidd ydan ni fel Eglwys".

"Yn Esgobaeth Bangor yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn gorfod blaenoriaethu yr hyn sy'n bwysig.

"Mae 'na dorri tir newydd yn digwydd ac fel rhan o hynny mae yna sgwrs onest am asesu adeiladau.

"Am y tro cyntaf ers canrifoedd ry'n ni yn edrych ar gyflwr ein hadeiladau a gwneud penderfyniadau yn sgil hynny."

Disgrifiad o’r llun,
Diane a William Rowlands ydy wardeiniaid Eglwys Sant Cawrdaf yn Aber-erch

Dywedodd un o wardeniaid Eglwys Sant Cawrdaf, Diane Rowlands, ei bod yn "teimlo'n drist ofnadwy".

"Mae'n ddiwedd cyfnod, mae eglwys Aber-erch uwchben y pentref a 'dyw cael eglwys heb wasanaeth ar y Sul ddim yn beth da," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

"Ond be' allwn ni 'neud, dim ond rhwng pedwar a chwech sy'n dod i addoli yma bellach, nifer wedi marw ac eraill wedi symud i gartrefi hen bobl."

Ychwanegodd bod costau uchel i gynnal yr adeilad: "Yn ddiweddar 'da ni wedi gwario £22,000 ar drwsio wal yn yr eglwys ond mae'r dry-rot wedi dod 'nôl.

"Mi gawson ni arian gan yr Eglwys yng Nghymru ond roedd rhaid i ni godi tipyn ein hunain hefyd ac i fod yn onest doedd yna ddim lot o gefnogaeth.

"Mae'n gyfnod trist, ond am wn i does 'na ddim dewis. Bydd rhaid i ni fynd i wasanaeth i Gricieth neu Bwllheli neu i'r capel, 'dan ni ddim yn gul o ran hynny."

£600,000 i gynnal a chadw

Ychwanegodd Mr Evans ar ran Esgobaeth Bangor: "'Da ni'n etifeddion traddodiad Oes Fictoria o adeiladu eglwysi newydd lle roedd 'na drefi a phentrefi diwydiannol yn digwydd.

"Dwi'n cydnabod ein bod yn bobl ein milltir sgwâr - mae bod yn agos a bod yn bresenoldeb cymdeithasol yn bwysig ond mae bod yn gynaliadwy yn bwysig hefyd a thra bod hi'n bwysig talu sylw i bawb sy'n addoli ar hyn o bryd, mae'n bwysig hefyd ein bod yn talu sylw i anghenion y mwyafrif llethol sydd byth yn croesi'r trothwy.

"Mae angen patrwm a lleoliadau sy'n ddeniadol iddyn nhw hefyd."

Mae Eglwys Sant Cawrdaf yn adeilad rhestredig gradd 1 ac mae Eglwys Cybi yn fan pererindod o bwys a'r gobaith, meddai Mr Evans, yw cydweithio â rhai partneriaethau er mwyn diogelu rhai o'r adeiladau.

Eisoes mae Esgobaeth Bangor yn cynnal trafodaethau gyda sefydliadau Friends of Friendless Churches a The Church Conservation Trust ar ddyfodol rhai o'r adeiladau. Bydd y gweddill yn cael eu gwerthu.

Yr amcangyfrif yw y bydd hi'n costio £600,000 i gynnal a chadw eglwysi Bro Eifionydd yn ystod y 15 mlynedd nesaf, gyda llawer iawn o'r gwariant yn gorfod digwydd o fewn y pum mlynedd nesaf.

Ychwanegodd Mr Evans: "Rhaid i ni fod yn gynaliadwy, a dyna pam mae'n bwysig cael y trafodaethau."