Dyn 71 oed wedi marw wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 71 oed oedd yn teithio ar gefn beic wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.
Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle ar ôl gwrthdrawiad gyda VW Transporter ar Colchester Avenue am tua 13:30 ddydd Sadwrn.
Cafodd y ffordd ei chau am rai oriau wedi'r digwyddiad ond bellach wedi cael ei hailagor.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am y digwyddiad ac mae'r heddlu yn apelio am dystion.