Carcharu dyn am achosi marwolaeth wrth barcio ar draffordd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Bowys a barciodd yn y lon gyflym ar draffordd wedi ei garcharu ar ôl i gerbyd arall daro â'r car gan ladd dau deithiwr.
Aeth James Davies, 71 oed o'r Trallwng, ar goll ar yr M42 yn Sir Warwick ac fe stopiodd yn y lon oddiweddid er mwyn gofyn am gymorth gan weithiwr ffordd.
Fe blediodd Mr Davies yn euog i achosi marwolaeth ei bartner Christine Evans, 53 oed, a Barbara Jones, 63 oed, yn Llys y Goron Warwick.
Dywedodd Mr Davies i'r gwrthdrawiad ddigwydd ychydig dros funud ar ôl stopio'r car, a bod y cerbyd "wedi codi i'r awyr a throi dwywaith cyn disgyn yn llonydd".
Yn ôl y barnwr Anthony Potter roedd y digwyddiad yn "drychineb ofnadwy" fydd yn effeithio ar nifer o bobl am flynyddoedd i ddod.
Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis.