Saethu cerddwr yng Nglyn Ebwy

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Mae Ffordd Manmoel yn lon wledig ar gyrion Glyn Ebwy

Mae ditectifs yn ymchwilio i ddigwyddiad yng Nglyn Ebwy yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei saethu yn ei goes.

Roedd y dyn yn mynd â'i gi am dro pan gafodd ei saethu, ac mae ganddo anafiadau difrifol i'w goes.

Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd Man Moes tua 1800 nos Sul, 18 Tachwedd.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful. Mae mewn cyflwr sefydlog, ond credir bod ei anafiadau yn rhai sy'n debygol o newid ei fywyd.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau, ac mae ditectifs yn pwysleisio nad oes risg i unrhyw un arall yn yr ardal.

Mae Heddlu Gwent wedi apelio i'r cyhoedd am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig