Heddlu'n ymchwilio i ymosodiad ar fws yn Y Barri

Cardiff Road Image copyright Google
Image caption Roedd y bws yn teithio ar lôn ger stad ddiwydiannol Tŷ Vernon ar y pryd

Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio i drosedd ar ôl i ddyn gael ei ddyrnu yn ei lygad a'i geg mewn ymosodiad.

Roedd y dyn 38 oed a'i fam yn teithio ar fws yn Y Barri ddydd Llun.

Roedd rhaid i'r dyn dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Yn ôl Heddlu De Cymru mae'r ymchwiliad yn parhau ond nid oes unrhyw un wedi cael ei arestio.

Pynciau Cysylltiedig