Clip CCTV o ffrwgwd Shane Williams
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Clip CCTV o ffrwgwd staff diogelwch gyda Shane Williams

19 Tachwedd 2018 Diweddarwyd 16:17 GMT

Mae tri o staff diogelwch clwb nos yng Nghaerdydd yn wynebu carchar am achosi ffrwgwd yn dilyn digwyddiad gyda'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Shane Williams a'i ffrindiau.

Cafwyd Dave Wing, 53, a Dean Flowers, 32, yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Clywodd y llys bod trydydd dyn - Aled James, 26 - eisoes wedi pledio'n euog i'r un cyhuddiad.

Cafwyd diffynnydd arall - Haydn Morgan, 42 - yn ddieuog o achosi ffrwgwd.

Mae lluniau CCTV o du mewn i'r clwb yn dangos Shane Williams yn cael ei lusgo i'r llawr, tra bod ei frawd Dean wedi ei adael yn anymwybodol y tu allan.