Ffrwgwd Shane Williams: Staff clwb nos Caerdydd yn euog
- Cyhoeddwyd
Mae tri o staff diogelwch clwb nos yng Nghaerdydd yn wynebu carchar am achosi ffrwgwd yn dilyn digwyddiad gyda'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Shane Williams a'i ffrindiau.
Cafwyd Dave Wing, 53, a Dean Flowers, 32, yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Clywodd y llys bod trydydd dyn - Aled James, 26 - eisoes wedi pledio'n euog i'r un cyhuddiad.
Cafwyd diffynnydd arall - Haydn Morgan, 42 - yn ddieuog o achosi ffrwgwd.
Clywodd y rheithgor bod y ffrwgwd wedi digwydd y tu allan i glwb nos Coyote Ugly ar ôl gêm rygbi rhyngwladol yn y brifddinas ar 2 Rhagfyr y llynedd.
Roedd Shane Williams, 41, a'i ffrindiau allan yn dathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn De Affrica, gyda nifer o gefnogwyr Cymru yn gofyn am y cyfle i gymryd llun gydag ef.
Ond clywodd y llys fod un person wedi ceisio defnyddio'i ben i daro Dean Williams, brawd Shane Williams.
Cafodd y ddau frawd a'u ffrindiau eu taflu allan o'r clwb yn sgil y digwyddiad.
Yn ôl yr erlyniad, fe wnaeth y bownsars ddilyn y grŵp allan o'r clwb nos ac ymosod arnynt, gan eu cicio a'u dyrnu.
Mae lluniau CCTV o du mewn i'r clwb yn dangos Shane Williams yn cael ei lusgo i'r llawr, tra bod ei frawd wedi ei adael yn anymwybodol.
Bydd Wing, Flowers a James yn cael eu dedfrydu ar 19 Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- 19 Tachwedd 2018
- 13 Tachwedd 2018