Codi mwy o arian i Blant Mewn Angen yng Nghymru
- Published
Mae Plant Mewn Angen yng Nghymru wedi codi £2.45m wedi diwrnod llawn digwyddiadau ddydd Gwener.
Ar draws y DU codwyd £50.6m.
Ers cychwyn Diwrnod Plant Mewn Angen yn 1980 mae £1bn wedi'i godi.
Mae'n ddiwrnod Plant Mewn Angen!
— Urdd Gobaith Cymru (@Urdd) November 16, 2018
Llongyfarchiadau anferthol i @AledLlanbedrog a holl blant Cymru ar ymgyrch arbennig #pawenlawen 🐾 - 30,000 o bawennau bach llawen wedi eu rhannu dros y wlad! 😱
#plantmewnangen#childreninneed2018 pic.twitter.com/nGY3zElqrT
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter
Mae'r swm a godwyd eleni ychydig yn uwch na'r llynedd sef £2.4m.
Ymhlith y gweithgareddau roedd ymgyrch cyflwynydd Radio Cymru Aled Hughes i gael plant Cymru i rannu 'Pawen Lawen' ac erbyn nos Wener yr oedd 30,000 o bawennau bach llawen wedi eu rhannu.
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 14 Tachwedd 2018