Yr actor Matthew Rhys am i'w fab siarad Cymraeg
- Published
Mae'r actor Matthew Rhys yn siarad Cymraeg gyda'i fab gafodd ei eni yn yr Unol Daleithiau, gyda'r gobaith y byddai'n "deall yr iaith drwy gydol ei oes".
Ganwyd Matthew Rhys, 44 oed yng Nghaerdydd, ac mae bellach yn byw yn Efrog Newydd.
Mae ganddo ef a'r actores Keri Russell fab dyflwydd oed o'r enw Sam.
"Dim ond yn y Gymraeg fyddai'n siarad gydag ef," meddai wrth gylchgrawn y Radio Times. "Mae'n gallu ateb a deall ar hyn o bryd."
'Gorfodi'r Gymraeg'
Dywedodd seren cyfres The Americans ei fod hefyd eisiau i'w fab gefnogi tîm rygbi Cymru yn flynyddol yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
"Faint y gwneith siarad a dal yr iaith pan eith i'r ysgol, 'dwn i ddim," meddai.
"Ond, beth rwy'n gobeithio yw y bydd yn parhau i siarad Cymraeg ac wedyn bydd yn deall am byth.
"Maen siŵr y bydd yn dal dig am faint o Gymraeg y byddai'n gorfodi arno fe!"
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 18 Medi 2018
- Published
- 8 Tachwedd 2018