Gwrthdrawiad Treorci: Heddlu'n cyhoeddi enw dynes fu farw

A4061 Image copyright Google
Image caption Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyffordd y stryd fawr ar ffordd am 14:15

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dynes 81 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nhreorci ddydd Llun, 12 Tachwedd.

Bu farw Muriel Kinsey o ardal Pentre, Treorci yn yr ysbyty ddydd Mercher ar ôl cael ei chludo yno wedi'r gwrthdrawiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyffordd y stryd fawr ar ffordd yr A4061 am 14:15.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw ar 101.

Pynciau Cysylltiedig