Adran Dau: Casnewydd 2-0 Colchester

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
disgrifiad o’r llunJamille Matt yn dathlu sgorio ei 11fed gôl y tymor hwn

Roedd yna dri phwynt gwerthfawr i Gasnewydd ddydd Sadwrn wedi eu buddugoliaeth adref yn erbyn Colchester.

Roedd hi'n hanner cyntaf ddigon di-fflach wrth i'r naill dîm fel y llall chwarae'n ofalus iawn.

Ond ar ôl 54 munud fe ddeffrodd y gêm gyda gôl i Gasnewydd - Jamille Matt oedd y sgoriwr gydag ergyd droed chwith i gornel dde'r gôl yn dilyn cic gornel.

Roedd na fymryn o fywyd yn y gêm wedi hynny ac ambell ymgais gan y naill ochr a'r llall i sgorio.

Wedi 67 munud fe sgoriodd Cameron Pring ail gôl i Gasnewydd - ergyd droed chwith i gornel dde'r gôl eto gyda chymorth Tyreeq Bakinson.

Sirchaodd y tîm cartref dri phwynt gwerthfawr ar ôl perfformiadau siomedig yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae nhw bellach yn y trydydd safle yn y gynghrair - un pwynt uwchlaw Colchester.

Straeon perthnasol