Plentyn yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gar

Heol Pengry a Heol Oakleigh Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y gyffordd rhwng Heol Pengry a Heol Oakleigh yng Nghasllwchwr

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i gar daro plentyn ar yr A4240 yn Abertawe ddydd Mawrth.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 15:30 ddydd Mawrth yng Nghasllwchwr ar y gyffordd rhwng Heol Pengry a Heol Oakleigh.

Mae'r plentyn 11 oed yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan Citroen C3 glas.

Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig