Neil Taylor yn tynnu 'nôl o garfan Cymru oherwydd anaf

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Getty Images
disgrifiad o’r llunMae Neil Taylor wedi ennill 41 cap dros Gymru

Mae amddiffynnwr Aston Villa, Neil Taylor wedi tynnu 'nôl o garfan Cymru oherwydd anaf.

Does neb wedi'i alw i'r garfan yn ei le ar gyfer y gemau yn erbyn Denmarc yng Nghaerdydd nos Wener, ac yna yn Albania nos Fawrth.

Mae amddiffynnwr Brentford, Chris Mepham, eisoes wedi gorfod tynnu 'nôl o'r garfan oherwydd anaf.

Mae pryderon hefyd yn parhau ynglŷn â ffitrwydd Gareth Bale ar ôl i yntau dderbyn anaf i'w bigwrn tra'n chwarae i Real Madrid dros y penwythnos.

Ond mae Denmarc yn dioddef gydag anafiadau hefyd, gyda'u capten Simon Kjaer allan ag anaf i'w goes.

Straeon perthnasol