'Dim man gwan' yn y rheolau treth cyngor ar ail dai

rhosneigr Image copyright Google
Image caption Rhosneigr ydy un o'r pentrefi ar Ynys Môn sydd â'r gyfradd uchaf o dai gwag

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud nad yw'n credu bod man gwan yn y gyfraith sy'n golygu bod modd i bobl osgoi talu treth cyngor ar ail dai.

Daw hynny wedi i gynghorwyr yng Ngwynedd a Môn fynegi pryder bod rhai perchnogion tai haf yn cofrestru'r anheddau fel busnesau, a hynny er mwyn osgoi'r trethi.

Mae Cyngor Môn bellach yn trafod codi'r dreth cyngor ychwanegol ar ail dai o 25% i 35% - a'i godi 100% ar dai gwag - er mwyn helpu prynwyr lleol.

Dros y Fenai mae Cyngor Gwynedd eisoes yn codi 50% yn ychwanegol ar y dreth cyngor ar gyfer ail dai a thai gwag.

'Testun pryder'

Cafodd y mater ei godi yn y Senedd gan AC Plaid Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, ddywedodd ei fod cefnogi cynlluniau'r cyngor i godi'r dreth.

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth dirprwy arweinydd Cyngor Môn alw ar yr awdurdod i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddyn nhw ddiddymu'r opsiwn o gofrestru tai gwyliau fel busnesau.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd faint o bobl yn y ddwy sir sydd wedi cofrestru eu tai yn y fath fodd er mwyn osgoi treth.

Ond does dim rhaid talu treth cyngor ar dai gwyliau sydd wedi'u cofrestru fel busnesau os bod y tŷ ar gael i'w rentu am o leiaf 140 diwrnod y flwyddyn.

Image caption Mae Rhun ap Iorwerth yn cytuno ag ymdrechion Cyngor Môn i gynyddu'r dreth cyngor ar ail dai

"Rydyn ni'n gwybod pa mor ddifrifol ydy'r broblem - roedd 36% o'r tai gafodd eu gwerthu ar Ynys Môn yn 2017/18 yn ail dai neu'n dai gafodd eu prynu i'w rhentu," meddai Mr ap Iorwerth.

"Mae'r ffigyrau hyd yn oed yn uwch yng Ngwynedd, ac mae hynny'n destun pryder mawr."

Ychwanegodd: "Mae patrwm yn datblygu ble mae mwy a mwy o bobl, yn hytrach na thalu treth cyngor ar eu tai, yn eu cofrestru nhw fel busnesau fel eu bod nhw'n talu cyfraddau busnes yn lle.

"Ond fel busnes bach maen nhw'n cael y cymorth cyfraddau busnes llawn, ac mae hynny'n ddrud i awdurdodau lleol.

"A yw'r prif weinidog yn cytuno gyda fi bod angen cau'r bwlch yma yn y ddeddf, a beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud er mwyn cau'r bwlch?"

Cynnal asesiad

Wrth ymateb dywedodd Mr Jones: "Dwi ddim yn meddwl bod man gwan, ond mae'r ddeddf yn glir - mae'n gryfach nag yw e yn Lloegr."

Ychwanegodd mai mater i Asiantaeth y Swyddfa Brisio oedd penderfynu a oedd anheddau yn gymwys i gael eu dynodi fel busnesau ai peidio.

Ond dywedodd hefyd fod y llywodraeth yn edrych ar effaith y cynnydd mewn treth cyngor ar gyfer ail dai i weld a oedd hyn wedi newid pethau.

"Mae hynny'n cynnwys arolwg o awdurdodau lleol, i asesu faint o dai sydd wedi newid o dalu treth cyngor i gyfraddau annomestig," meddai.

"Unwaith y bydd yr arolwg hwnnw wedi ei gwblhau, fe allwn ni weld beth yw maint y broblem, a gweld os oes angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn talu'n iawn, yn unol â statws eu heiddo."

Straeon perthnasol